Coleg Llysfasi, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2LB | Llysfasi
College, Ruthin, Denbighshire, LL15 2LB
Rhif Ffôn: 01978 790 263 / Ffacs: 01978 790 468 | Phone No: 01978 790263 / Fax:
01978 790 468
e-bost: admin@llysfasi.ac.uk | e-mail:
admin@llysfasi.ac.uk

Mae Cyrff Llywodraethol y ddau goleg wedi cytuno i gynnig i Lywodraeth Cynulliad Cymru y dylai’r ddau goleg uno. Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn traethu’r cyd-destun, y sail resymegol a’r manteision a ragwelir gyda’r cyfuno arfaethedig.
Rydym yn llawn cyffro ynghylch dyfodol y Coleg cyfunedig er lles addysg, hyfforddiant a datblygu sgiliau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac, yn arbennig, dyfodol darpariaeth astudiaethau Diwydiannau’r Tir o fewn economi Cymru. Mae ein cynigion yn golygu trosglwyddo’r cyfrifoldeb am ddysgwyr, ansawdd, ariannu a gweithredu cysylltiedig â phob darpariaeth, yn cynnwys gweithgareddau Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith, oll i Goleg Glannau Dyfrdwy. Bydd creu seilwaith dysgu ehangach yn fodd i Goleg Llysfasi sicrhau cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant Tir yn Sir Ddinbych a thu hwnt iddi a gweithio gyda’r Awdurdodau Addysg Lleol i gyflawni swyddogaeth allweddol o ran polisi a arweinir gan bartneriaeth er mwyn cael cydweithredu effeithiol, yn enwedig ar gyfer y grwp oedran 14-19. Bydd yn gwella’r cyfleoedd i gyflogwyr, yn cynnig dewisiadau gwell i’r dysgwyr a darpariaeth ddwyieithog yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy. Bydd y Coleg cyfunedig, wrth adeiladu ar sail y cryfderau a ddaeth o gyfuno Coleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Garddwriaeth Cymru yn ddiweddar, yn diogelu a gwella’r ddarpariaeth astudiaethau Diwydiannau’r Tir ac yn cryfhau cyfraniad y sector Tir i economi Cymru.
Mae’r ddau Gorff Llywodraethol yn credu y bydd y cyfuno arfaethedig yn cynnig cwricwlwm mwy cynhwysol, hyblyg ac ymatebol a fydd yn cynnig modd i’r Coleg cyfunedig wella mynediad a chynyddu’r dewis ar gyfer amrediad ehangach o fyfyrwyr ar bob lefel ac oedran, gwella llwybrau dilyniant ac y bydd yn fodd i gyrsiau fod yn fwy hyfyw. Bwriedir hefyd i’r Coleg cyfunedig yn sgil hyn gynnig cwricwlwm gwell mewn modd mwy economaidd, cost-effeithiol a hyfyw nag ar hyn o bryd.
Bydd y broses ymgynghori yn rhoi cyfle i randdeiliaid allweddol, mewnol ac allanol, fynegi eu barn ynglyn â’r cyfuno arfaethedig a rhoi gwybodaeth ar gyfer cyfeiriad darpariaeth addysg a hyfforddiant yn y dyfodol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Bydd adborth yr holl randdeiliaid yn cael ei ystyried a’i ddefnyddio i hysbysu polisi’r sefydliad cyfunedig yn y dyfodol.