Coleg Rhyngwladol

Gyda'n llety preswyl, mae'r Coleg wedi ei leoli'n dda i groesawu myfyrwyr o dramor yn ogystal â chroesawu ymwelwyr cyfnewid. Mae lleoliad prydferth y Coleg yn ei wneud yn le dymunol i grwydro o amgylch Gogledd Cymru, Caer a Lerpwl. Mae ein lleoliad hefyd yn golygu ein bod yn hawdd ein cyrraedd o feysydd awyr Manceinion a Lerpwl yn ogystal â phorladdoedd môr Caergybi, Mostyn a Lerpwl. Rydym yn croesawu grwpiau astudio o ysgolion/colegau o dros y byd ac rydym eisoes wedi croesawu grwpiau o'r Eidal, Yr Almaen, Iwerddon a De Affrica.
Mae natur hyblyg ein darpariaeth yn galluogi tiwtoriaid i greu rhaglenni dysgu unigol, gan gynnwys Saesneg fel Iaith Dramor, TG, astudiaethau Tir Seiliedig, Busnes a Thwristiaeth i gwrdd ac anghenion myfyrwyr sydd yn ymweld. Gallai'r Coleg hefyd drefnu amrywiol ymweliadau a gweithgareddau cymdeithasol i chi yn ystod eich arhosiad. Dyma rhai o'r sylwadau o'n ymwelwyr rhyngwladol bodlon:
"Mae'r bobl yn hynod gyfeillgar."
"Mae Coleg Llysfasi yn braf iawn ac mae'r darlithwyr yn dda iawn. Mae'r lle'n brydferth iawn ac rwyf wedi bod yn hapus iawn yn ystod y pythefnos rwyf wedi aros yma."
"Mae'r gwersi'n ddiddorol iawn."
"Rwy'n hoffi fy ystafell yn fawr iawn yn ogystal â bwyta bacwn a wyau!"










