Peirianneg

Mae ein hadnoddau peirianneg yn rhoi cyfle i ni gynnig amrywiaeth o weithgareddau yn ymwneud â gofalu, trwsio a gweud peiriannau. Mae'r offer diweddaraf ar gael yn ein gweithdai peirianneg ceir, amaeth a choedwigaeth. Gyda'n staff profiadol, ceir y cyfleoedd dysgu gorau phosibl.
Ceir llawer o gyfleoedd i ennill profiad realistig ac ymarferol ar amrywiaeth o beiriannau bach a mawr, moduron, peiriannau fferm a choedwigo. Cewch hyfforddiant ymarferol gan ein staff profiadol, a hynny o fewn awyrgylch gweithdy prysur, yn ogystal ag ar leoliadau fferm a fforestydd. Bydd hynny'n sicrhau y byddwch yn dysgu'r sgiliau angenrheidiol ac y byddwch yn barod ar gyfer byd gwaith neu ddilyniant i addysg uwch. Mae gennym gysylltiadau da â diwydiant, a chan fod cyflogwyr yn rhoi gwybodaeth i ni ynglyn â'u gofynion, mae ein cyrsiau'n berthnasol i hynny. O ganlyniad, bydd myfyrwyr yn llwyddiannus wrth sicrhau swyddi.
Mae'r Adran yn darparu cyrsiau llawn amser a rhan amser, cyrsiau byr a dosbarthiadau nos mewn dewis eang o feusydd. Mae'r cyrsiau yn arwain i gymhwysterau a adnabyddir yn genedlaethol a bydd sgiliau ymarferol yn cael eu cydnabod trwy credydau Cymhwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (CGC). Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau cyflwyniadol, er enghraifft mewn weldio, sydd yn cael eu cydnabod gan Dystysgrifau Rhwydwaith y Coleg Agored.










