Coleg Llysfasi

Amaethyddiaeth - Gofal Anifeiliaid - Coedwigaeth a Chefn Gwlad - Peirianneg - Busnes - Rheolaeth - Technoleg Gwybodaeth
Ieithoedd Modern - Cymraeg i Oedolion - Gofal Plant - Gofal - Trin Gwallt - Therapi Harddwch - Therapi Cyfannol

Tudalen Gartref Llysfasi

Gwybodaeth am y Coleg

Hanes

Manylion Cyswllt

Map Lleoliad

Siarter y Coleg

Cyrsiau

Cyflawni Rhagoriaeth

Adolygiad Blynyddol

Myfyrwyr a Newyddion

Addysg i Oedolion a'r Gymuned

Cysylltiadau Rhyngwladol

Adnoddau

Cynllun Iaith a Darpariaeth Dwyieithog

Cymorth i Ddechrau Eich Busnes

Llywodraethwyr

Swyddi

Dolenni Defnyddiol

English

Technoleg Gwybodaeth

Therapi Harddwch

Peirianneg

Trin Gwallt

Gofal Anifeiliaid

Cyfleusterau y Llyfrgell

Beicio Pedwar Olwyn Cynaeafu Myfyrwyr o Dramor Coedwigaeth

Canllaw byr i wasanaethau y llyfrgell yw hwn.  Gobeithiwn y bydd yn ddefnyddiol.

Staff y Llyfrgell

e-bost: jayne.lewis@llysfasi.ac.uk neu sioned.hughes@llysfasi.ac.uk

Oriau Agor

Bydd y Llyfrgell ar agor yn ystod y gwyliau, ond gwell ffonio i wneud yn siwr.

Aelodaeth

Dim ond myfyrwyr a staff all ymuno â Llyfrgell y Coleg a menthyg o’r stoc, ond gall unrhyw un wneud defnydd o’r Llyfrgell er mwyn archwilio.  Gall aelodau o’r cyhoedd fenthyca drwy ganiatad gan y llyfrgellydd.

Cyfleusterau

Stoc Cyffredin: llyfrau, cylchgronnau, mapiau, taflenni masnach a meddalwedd cyfrifadurol am bynciau sy’n berthnasol i’r cyrsiau sy’n rhedeg yn y coleg.  Mae adran Gyrfaoedd yma hefyd.

Cyfrifiaduron

Mae’n bosib cysylltu â’r Rhyngrwyd.  Defnyddiwch y We yn gall.  Nid yw’n dderbyniol cysylltu ag ystafelloedd sgwrsio (“chatrooms”).

Gellir defnyddio y cyfrifiaduron ar gyfer gwaith megis prosesu geiriau, taenlenni a chronfeydd data ac maent wedi’u cysylltu at argraffydd laser.

Llun-gopio

Gwyliwch reolau hawlfraint.  Rhaid talu am y copiau yn y ddi-oed.   Mae y canlynol hefyd ar gael i’ch helpu gyda’ch gwaith – gilotin, clymwr crib, tyllydd a staplwr.

Newyddion

Mae amrywiaeth o bapurau lleol a chenedlaethol yn cael eu harchebu i’r Llyfrgell.

DVD

Mae stoc eang o ddeunydd ar DVD a fideo yn y Llyfrgell.

Llyfrau, a.y.b

Wedi’u trefnu yn ol trefn Dewey.  Gofynnwch i aelod o’r staff i ddod o hyd i’r rhif i chi ac i weld os yw’r llyfrau wedi’u benthyg.

Cylchgronnau

Mewn trefn yr wyddor.  Ffynhonnell bwysig o erthyglau am faterion cyfoes mewn bob math o astudiaeth.

Ffuglen

Mae casgliad cynyddol o ffugleni i’w benthyg yn y Llyfrgell.

Nwyddau ar werth

Mae amrywiaeth o nwyddau ysgrifennu ar werth yn y Llyfrgell, yn cynnwys ffeiliau, papur a disgiau cyfrifiadur, a’r cyfan am brisiau rhesymol.  Holwch wrth y ddesg.

Gwasanaeth

Mae catalog y Llyfrgell yn le da i chwilio am lyfrau.  Fodd bynnag, os oes angen cymorth arnoch am unrhyw beth – gofynnwch i staff y Llyfrgell – dyna pam ‘rydym ni yma.

Benthyciadau

Gall myfyrwyr fenthyg tair eitem, neu ychwaneg drwy ganiatad y llyfrgellydd.

Benthycir eitemau am 2 wythnos ar y tro, er gellir ehangu hyn weithiau.

Deunydd Cyfeiriol

Mae cylchgronnau ar gael ar gyfer cyfeiro yn unig.

Cadw wrth gefn

Os ydych eisiau benthyg llyfr sydd wedi’i fenthyg gan rhywun arall, gofynnwch i’r Llyfrgellydd.

Benthyciadau Rhynglyfrgellol

Gallwn weithau fenthyg o lyfrgelloedd eraill tu hwnt i’r Coleg.

Dirwyon

Mae dirwy o 10c y llyfr y dydd.

Chwilio am Wybodaeth

Trefnir llyfrau a fideos yn ol trefn rhifau Dewey

000 Cyfathrebu/Cyfrifaduron

100 Athroniaeth/Seicoleg

200 Crefydd

300 Cymdeithasag (ee Hamdden)

400 Ieithoedd

500 Gwyddoniaeth Pur ( ee Bioleg/Ecoleg)

600 Gwyddoniaeth Cymhwysol (ee Amaeth)

700 Celfyddydau (ee Tirlinio)

800 Llenyddiaeth

900 Daearyddiaeth

Mae’r system yn gallu cael ei rannu ymhellach – ee yn y 600’au:

630 Amaeth

636 Anifeiliaid

636.089 Milfeddygaeth

636.1 Ceffylau

636.1089 Milfeddygaeth i Geffylau

636.2 Gwartheg

Rheolau'r Llyfrgell

Ychydig iawn o reolau sydd yn y Llyfrgell, ac maent er budd holl ddefnyddwyr y Llyfrgell.

Y Llyfrgell yng Nghanolfan Hyfforddi Wrecsam
(ar agor Dydd Mercher 9:30 yb - 4:00 yp)

Mae llyfrgell Hyfforddiant Wrecsam wedi ei sefydlu yn yr ystafell cyfrifiaduron taro mewn.  Mae o wedi ei staffio gan y llyfrgellydd, Jane Lewis.

Mae'r mwyafrif o'r llyfrau ar gyfer cyfeiro yn unig ond bydd benthyciadau ar gael dan rhai amgylchiadau.  Yn ystod absennoldeb y llyfrgellydd gall unrhyw ymholiadau gael eu cyfeirio i'r dderbynfa, neu tiwtor y cwrs.

Mae'r llyfrgell yn cynnwys llyfrau ar Drin Gwallt, Therapi Harddwch a Thechnoleg Cerbydau Modur.  Mae'n bosib gweld catalog llyfrau sydd yn rhestri llyfrau ar gael yng Nghanolfan Hyfforddi Wrecsam ac ar gael yn y brif safle.  Cysylltwch â'r llyfrgellydd am fanylion pellach.

Busnes Gwartheg Godro Trin Gwallt  Peirianneg

Valid CSS! Valid XHTML 1.0 Transitional