Coleg Llysfasi

Amaethyddiaeth - Gofal Anifeiliaid - Coedwigaeth a Chefn Gwlad - Peirianneg - Busnes - Rheolaeth - Technoleg Gwybodaeth
Ieithoedd Modern - Cymraeg i Oedolion - Gofal Plant - Gofal - Trin Gwallt - Therapi Harddwch - Therapi Cyfannol

Tudalen Gartref Llysfasi

Gwybodaeth am y Coleg

Hanes

Manylion Cyswllt

Map Lleoliad

Siarter y Coleg

Cyrsiau

Cyflawni Rhagoriaeth

Adolygiad Blynyddol

Myfyrwyr a Newyddion

Addysg i Oedolion a'r Gymuned

Cysylltiadau Rhyngwladol

Adnoddau

Cynllun Iaith a Darpariaeth Dwyieithog

Cymorth i Ddechrau Eich Busnes

Llywodraethwyr

Swyddi

Dolenni Defnyddiol

English

Technoleg Gwybodaeth

Therapi Harddwch

Peirianneg

Trin Gwallt

Gofal Anifeiliaid

Hanes Coleg Llysfasi

Beicio Pedwar Olwyn Cynaeafu Myfyrwyr o Dramor Coedwigaeth

Mae enw Llysfasi wedi bod yn enw cyfarwydd oddi mewn i ffiniau'r hen Sir Dinbych, ac yna Sir Clwyd (a nawr wrth gwrs y Sir Ddinbych 'newydd') ac yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ym maes addysg amaethyddol am ymhell dros 80 mlynedd.  Mentrwyd am y tro cyntaf i'r maes yma ym 1911 o ganlyniad i wahanu Stad Castell Rhuthun ym mis Medi 1909, stad yr oedd Llysfasi'n rhan ohoni bryd hynny.  Er bod amaethyddiaeth yn parhau i chwarae rhan bwysig iawn ym mywyd Llysfasi, nid sefydliad ffermio yn unig ydyw bellach , ond Coleg mewn ardal wledig sy'n cyflawni swyddogaeth llawer ehangach.

Y faenol

Heddiw, mae fferm y Coleg yn ymestyn dros ardal sy'n fwy na 300 o hectarau i gyd, ac mae'n cynnwys mathau o dir sy'n amrywio o iseldir yn Nyffryn Clwyd i ardal helaeth o ucheldir glaswelltog a thir mynyddig serth.  Mae adeiladau helaeth y Coleg yn gorwedd wrth droed Nant y Garth.

Hanes Cynnar

Fel a ddogenfwyd gan D.S Edwards (Pennaeth o 1943 - 1967):

Awgrymodd o bod yr enw gwreiddiol Llys Llannerch wedi newid i Lys Masi (Massey's Court) gan ddisgynnydd o denant o'r un enw o'r 13eg ganrif.  Digwyddodd hyn yn ystod yr ail rhan o'r 16eg ganrif, pan adeiladwyd y faenol.

Rhwng 1633 a 1909 roedd ym meddiant teulu Myddleton o'r Waun, a'u disgynyddion, y Wests ac yna yn olaf y Cornwallis-Wests o Gastell Rhuthun.

Ym 1909, fe brynwyd y stad am £13,680 gan Mr Charles William Sandles o Sir Gaer, a wnaeth gynlluniau i sefydlu Llysfasi fel Coleg Amaethyddol.  Eto newidwyd enw'r stad i "Valley Farm". Enw'r cymeriad yn y llun yw J.H.Lowrie (Bronco Jack), rheolwr y fferm.

Bronco Jack

Ym mis Mawrth 1911, dim on 3 mis ar ol ei ddyddiad agor arfaethedig fel Ysgol Ffermio, fe arweiniodd problemau ariannol at arwerthiant arall, y tro yma i Mr R.W.Brown, gwerthwr cotwm o Benbedw.

Dan awdurdod Mr Brown, fe adnewyddwyd y safle ac fe newidwyd yr enw yn ol i Lysfasi.  Parhodd'r cynllun i sefydlu'r fferm fel sefydliad addysgiadol amaethyddol, gan ei hysbysebu fel "Llysfasi Manor Farm School".

1919 - 1969

Ym 1919, fe brynwyd Llysfasi gan Gyngor Sir Ddinbych gyda grant gan y Weinyddiaeth Amaeth.  Roedd y grant yn gysylltiedig â chynllun Addysg Amaethyddol a gyhoeddwyd ar ol y Rhyfel Byd Cyntaf.

Apwyntwyd y Pennaeth cyntaf, Mr Isaac Jones yn Rhagfyr 1919.  Arhosodd yn ei swydd hyd at 1943 ac fe'i olynwyd gan Mr D.S. Edwards (1943 - 1967), Mr Maldwyn Fisher (1967 - 1983) a'r Pennaeth presennol, Mr D.F. Cunningham (1983 - ).

Isaac Jones D.S. Edwards Maldwyn Fisher D.F Cunningham

Yn dilyn y pryniad gan Gyngor Sir Ddinbych, bu mwy o ddatblygiadau strwythurol a gweinyddol, yn arwain i gydnabyddiaeth fel "Sefydliad Ffermio" a lansio'r cwrs cyntaf ar y 10fed o Fai 1920.

Cafodd yr Ail Ryfel Byd effaith sylweddol ar y Coleg ac fe ohirwyd y dosbarthiadau i gyd rhwng 1940 hyd at yr 28ain o Hydref 1946.

Wedi'r rhyfel, rhoddwyd mwy o bwyslais ar bwysigrwydd amaeth ac fe ychwanegwyd cyrsiau blwyddyn i'r rhai byrach. Erbyn diwedd y pumdegau, roedd amrywiaeth y cyrsiau gwledig wedi datblygu i gynnwys gofal cnydau ac anifeiliaid, peirianneg, sgiliau domestig, clustogwaith a dodrefnu, ieir, llaethyddiaeth, garddio, cadw tŷ a chyfrifon.

Bu'r chwedegau yn gyfnod o newid a datblygiad. Ym 1961 sefydlwyd Bwrdd Llywodraethwyr yn lle'r Pwyllgor Ffermio ac fe sefydlwyd hostel newydd ym 1962.  Adeiladwyd llawer o adeiladau newydd a dymchwelwyd llawer o'r hen adeiladau yn ystod y cyfnod yma.  Bu agoriad swyddogol i'r adeiladau fferm ym 1965.  Erbyn 1967 roedd y bloc dysgu newydd hefyd wedi ei gwblhau.

Hen Adeiladau Adeiladau Newydd

Yn ystod y cyfnod daeth rheolaeth uniongyrchol y Weinyddiaeth Amaeth dros y system o Sefydliadau Ffermio i ben a daeth Llysfasi i'w adnabod fel Coleg Amaethyddol Llysfasi.

Ers y 60au, mae'r Coleg wedi parhau i ddatblygu ac yn awr yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau a chyfleusterau.  Gallwch ddarllen mwy am rheini ar dudalennau eraill o'r wefan.

Am wybodaeth pellach am ein hanes, gan gynnwys adroddiadau personnol gan staff a myfyrwyr, bydd y llyfr canlynol o diddordeb:

Coleg Llysfasi College
1921 - 1996
gan D.Gwynne Morris
(W.O. Jones (Argraffwyr) Ltd)

Erbyn hyn mae archifdy yn Llyfrgell Coleg Llysfasi.  Yn yr archifdy ceir nifer o luniau o'r Coleg o'r dyddiau a fu, yn ogystal a chasgliad o atgof-wrthrychau a fyddai o ddidordeb i'r rheini sydd yn hoff o hanes leol.

Ymysg y lluniau, ceir nifer yn dangos y Coleg yn ei flynyddoedd cynnar, o'r grwpiau dosbarth cyntaf, i bobl o bwysigrwydd arbennig yn hanes a datblygiad y Coleg.  Er enghraifft, ceir lluniau dosbarth o 1921 hyd at y presennol.

Mae'n bosib ymweld a'r archifdy yn ystod oriau agored y Coleg a thrwy gytundeb a'r llyfrgellydd.

Busnes Gwartheg Godro Trin Gwallt  Peirianneg

Valid CSS! Valid XHTML 1.0 Transitional