Coleg Llysfasi

Amaethyddiaeth - Gofal Anifeiliaid - Coedwigaeth a Chefn Gwlad - Peirianneg - Busnes - Rheolaeth - Technoleg Gwybodaeth
Ieithoedd Modern - Cymraeg i Oedolion - Gofal Plant - Gofal - Trin Gwallt - Therapi Harddwch - Therapi Cyfannol

Tudalen Gartref Llysfasi

Gwybodaeth am y Coleg

Hanes

Manylion Cyswllt

Map Lleoliad

Siarter y Coleg

Cyrsiau

Cyflawni Rhagoriaeth

Adolygiad Blynyddol

Myfyrwyr a Newyddion

Addysg i Oedolion a'r Gymuned

Cysylltiadau Rhyngwladol

Adnoddau

Cynllun Iaith a Darpariaeth Dwyieithog

Cymorth i Ddechrau Eich Busnes

Llywodraethwyr

Swyddi

Dolenni Defnyddiol

English

Technoleg Gwybodaeth

Therapi Harddwch

Peirianneg

Trin Gwallt

Gofal Anifeiliaid

Llysfasi: Yng Nghanol y Gymuned

Beicio Pedwar Olwyn Cynaeafu Myfyrwyr o Dramor Coedwigaeth

Mae Llysfasi'n cefnogi nifer o grwpiau dysgu oedolion a chymdeithasau.  Mae nifer o grwpiau yn cyfarfod yn y Coleg gan gynnwys Gweuthurwyr Ffyn, Cadwyr Gwenyn, Nyddwyr a Gwehyddion, Clwb Gwragedd Fferm, Merched y Wawr, Sefydliad y Merched.  Llysfasi yw'r lleoliad naturiol ar gyfer Ffederasiwn Clwyd o Glybiau Ffermwyr Ifanc.  Os ydych yn ystyried sefydlu grŵp bobl o'r un feddwl, boed yn gymdeithas hanesyddol, gosod blodau neu glwb celf - peidiwch oedi rhag cysylltu â'r Coleg am gymorth.  Beth bynnag yw eich diddordeb, fel coleg gymunedol hoffem eich helpu chi i'ch helpu'ch hunan!

Mae Llysfasi hefyd yn leoliad ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau ar gyfer amryw o sefydliadau ffermio, coedwigaeth a chadwraeth.  Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, Cymdeithas Perchnogion Tir, Y Cynulliad Cenedlaethol, Grŵp Ymgynghorol Fferm a Bywyd Gwyllt, yn ogystal a'r Gymdeithas Ganolog o Werthoedd Amaethyddol a Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig, yn cyfarfod yn rheolaidd yn y Coleg.  Yn ogystal, mae nifer o brosiectau yn cael eu rhedeg gan Llysfasi, gan gynnwys rhaglen effeithiol grŵp-bridio Defaid Mynydd Cymreig.

Addysg Gymunedol ac Oedolion

Bob blwyddyn mae mwy a mwy o oedolion yn dychwelyd i addysg a hyfforddiant trwy ymuno â rhaglenni yng Ngholeg Llysfasi.  Mae nifer yn cofrestru ar gyrsiau sydd wedi eu cynllunio'n arbennig, eraill ar raglenni rheolaidd ochr yn ochr a rhai sydd wedi gadael ysgol.  Mae rhai yn y Coleg yn llawn amser, eraill yn rhan amser neu gyda'r nos neu'n dilyn cyrsiau yn y gweithle.  Mae'r cyfleuoedd sydd ar gael yn hyblyg iawn.

Mae Llysfasi yn cefnogi addysg gydol oes ac addysg yn y gymuned.  Dyma pam mae'r Coleg yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau mewn nifer o ganolfannau arallymestyn ar draws Dyffryn Clwyd, Dyffryn Dyfrdwy ac arfordir Gogledd Cymru.  Mae rhai cyrsiau'n arwain at dystysgrif gydnabyddedig cenedlaethol, eraill yn gam cyntaf i astudiaethau bellach.

Os hoffech fynychu cwrs yn eich ardal neu os hoffech awgrymu cyrsiau y gallwn sefydlu yn eich ardal, yna ffoniwch ni ar 01978 790263.

Busnes Gwartheg Godro Trin Gwallt  Peirianneg

Valid CSS! Valid XHTML 1.0 Transitional