Gofal Anifeiliaid

Mae'r diwydiant gofal anifeiliaid yn ehangu a datblygu yn gyson efo galw uwch am weithlu sydd wedi ei hyfforddi i safonau proffesiynol.
Mae gan Llysfasi uned newydd ar gyfer Gofal Anifeiliaid efo'r offer diweddaraf, sydd wedi ei sefydlu ar brif gampws y Coleg. Mae'r uned yma yn ein galluogi i gynnig ystod eang a chynhwysfawr o gyrsiau a chyfleon dysgu i baratoi myfyrwyr unigol ar gyfer gwaith a dilyniant i raglenni dysgu eraill.
Mae'r uned Gofal Anifeiliaid yn rhoi cartref i anifeiliaid ar sail parhaol. Mae moch cwta, cwningod, llygod bochdew, cathod, pysgod ac ymlusgiaid yn rhai o'r creaduriaid a gedwir i fyfyrwyr allu dysgu technegau bwydo a gofal cyffredinol. Mae tasgau fel trin a chribo yn cael eu gweithredu ar anifeiliaid y Coleg a hefyd ar anifeiliaid anwes y mae pobl yn dod i'r Coleg. Mae'r cyrsiau yn rhoi cyfle i gael profiad ymarferol o ofal anifeiliaid yn ogystal a rhoi sylfaen cadarn mewn systemau bywydeg perthnasol. Mae llawer o'r cyrsiau hefyd yn cynnwys cyfnodau o brofiad gwaith dan arolygiaeth mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys meddygfaoedd milfeddygol, canolfannau RSPCA, siopau anifeiliaid anwes, ac efo cribwyr cwn. Mae nifer o gyflogwyr angen gweithwyr efo amrywiaeth o sgiliau, felly mae'r darpariaeth cyrsiau yn cynnwys hyfforddiant mewn gweinyddiaeth i alluogi myfyrwyr i fwcio anifeiliaid i mewn yn ogystal a gweithredu tasgau gofal anifeiliaid.
Mae Llysfasi yn ffodus i gael cefnogaeth diwydiant lleol ac yn gallu trefnu ymweliadau gan nifer o siaradwyr allannol. Mae sgyrsiau a chyflwyniadau wedi cael eu darparu gan e.e, rhai sy'n trin cwn heddlu, yr RSPCA, Cwn Gwrando i'r Byddar, Cwn Tywys i'r Dall, a Chwn Achub. Yn ogystal a'r siaradwyr gwadd, mae tripiau yn cael eu trefnu i ddigwyddiadau fel Crufts. Mae'r uned Gofal Anifeiliaid yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau a chymhwysterau sy'n parhau i ehangu efo pwyslais ar waith ymarferol.
Efo'r dewis eang o gyrsiau ar gael mewn Gofal Anifeiliaid, mae'n siwr y bydd un yn addas ar eich cyfer chi!










