Gofal a Gofal Plant

| Cyrsiau Gofal |
Cyrsiau Gofal Plant |
| Cyrsiau Cynorthwywyr Dysgu
| Arweiniaeth a Rheolaeth o Wasanaethau
Gofal |
Mae ehangder y cyrsiau a gynigir yn datblygu'n hynod gyflym ac yn cynnwys Iechyd a Gofal Cymdeithasol + Gofal Plant, Addysg a Datblygiad + Fframweithiau Prentisiaeth lefelau CGC 2, 3 & 4 yn cael eu dyfarnu gan City & Guilds.
Mae cysylltiadau cryf gyda diwydiant a chynigir rhaglenni yn y gweithle. Mae gennym eisoes berthnasoedd gwaith rhagorol gyda chyflogwyr. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddarparu cyrsiau perthnasol, diweddar fydd yn sicrhau bod gan y myfyrwyr y sgiliau ymarferol a'r wybodaeth angenrheidiol.
Mae'r adran yn cynnwys arbenigedd mewn sbectrwm eang o sgiliau gofal plant o gofal. Mae'r staff proffesiynol yn darparu gwasanaethau hynod gefnogol ac arbenigol i fyfyrwyr, gydag amrywiaeth eang o gefndiroedd a phrofiadau. Pa un ai ydych yn berson ieuanc neu'n fyfyriwr aeddfed sy'n gweithio yn y sector gofal ac yn dilyn rhaglen CGC, rydym yn amcanu at ddarparu'r gefnogaeth orau i fod o gymorth i chi.
Mae cyngor a chyfarwyddyd gyrfaol ynghyd รข lefel uchel o gefnogaeth diwtorial yn galluogi myfyrwyr i fynd yn eu blaenau i astudiaethau pellach, e.e. hyfforddiant nyrsio, lle mewn Addysg Uwch, neu i wella eu gyrfaoedd o fewn y sectorau Gofal a Gofal Plant.










