Cyrsiau Arwain Tîm ar gyfer 2010/11

Yn ôl y galw, rydym yn cynnig y cyrsiau canlynol ar gyfer y flwyddyn Academaidd 2010/11. Am Daflenni Gwybodaeth Cwrs cysylltwch â'r Coleg os gwelwch yn dda. Ceir gwybodaeth am amseroedd, dyddiadau, costau, a.y.b yn y Canllaw Cyrsiau.
CGC Arwain Tîm (Lefel 2)
Mae'r CGC yn addas ar gyfer rhai sy'n arwain tîm fel rhan o'u gwaith dyddiol. Gallwch fod yn gweithio mewn unrhyw gyfundrefn neu ddiwydiant ond bydd rhaid i chi ddangos bod ganddoch gyfrifoldeb am waith pobl eraill.
Cynnwys y Cwrs:
I ennill y CGC Lefel 2 gyfan, rhaid cwblhau 4 uned angenrheidiol a 2 uned o ddewis o 5 fel a restrir isod.
Unedau Angenrheidiol:
- A1 Rheoli eich adnoddau
- B5 Rhoi arweiniaeth i'ch tîm
- D1 Datblygu perthnasau gweithio effeithiol efo cydweithwyr
- E5 Sicrhau y bydd eich gweithredoedd yn lleihau peryglon i iechyd a diogelwch
Unedau Dewisol:
- C1 Hyrwyddo datblygiadau newydd
- D5 Dyrannu a gwiro gwaith yn eich tîm
- D7 Cyflwyno cyfleon dysgu i'ch cydweithwyr
- F5 Datrus problemau gwasanaeth cwsmer
- F7 Cynorthwyo gwelliannau gwasanaeth cwsmer










