Busnes, Rheolaeth a Thechnoleg Gwybodaeth

| Cyrsiau Technoleg Gwybodaeth |
Cyrsiau Dysgu a Datblygu |
| Cyrsiau Busnes |
Cyrsiau Rheolaeth |
Mae'r Adran Fusnes yn un fodern dros ben gyda'r adnoddau mwyaf diweddar ar eich cyfer. Rydym yn cynnig gwasanaeth proffesiynol mewn awyrgylch cyfeillgar, groesawus a chefnogol. Mae'r staff profiadol ac arbenigol yn rhoi gwasanaeth cynghori a hyfforddiant o'r ansawdd broffesiynol orau, yn unol â gofynion uchel busnesau yn y gymuned.
Ar y cyrsiau Technoleg Gwybodaeth, mae cyfle i weithio ar beiriannau unigol a defnyddio y meddalwedd cyfrifiadurol diweddaraf.
Mae rhai o’n rhaglenni hyfforddi yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith all helpu cynyddu hunan hyder. Mae cyrsiau ar gael sy’n addas ar gyfer pob lefel o ddysgu, petaech yn gychwynnwr llwyr neu wedi cyrraedd lefel uwch. Mae cwrs ar eich cyfer – petaech yn dysgu er mwyn eich hunain neu er mwyn eich gyrfa.
Mae llawer o swyddi yn gofyn am reolwyr sydd wedi cael hyfforddiant ac wedi ennill cymwysterau, ac felly mae ein rhaglenni hyfforddiant yn cynnig theorïau a thechnegau Rheoli, yn adeiladu ar sgiliau hyder a chyfathrebu gan ffocysu ar yr elfennau allweddol o fewn Rheolaeth ac edrych ar y digwyddiadau diweddaraf o fewn yr adran. Mae’r cyrsiau wedi eu creu ar gyfer y rheini sy’n reolwyr yn barod a’r rheini sydd yn disgwyl ennill fwy o gyfrifoldeb yn y dyfodol.
Mae’r cyrsiau Busnes rydem yn cynnig yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill dealltwriaeth a gwybodaeth gan ddatblygu sgiliau ymarferol mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae ein cyrsiau gweinyddol ac ysgrifenyddol yn gerbydau perffaith ar gyfer datblygu eich gyrfa, gan eu bod yn ymchwilio i fewn i strwythur a gweithredoedd sefydliadau. Mae cyrsiau ar gael ar gyfer pob lefel o fyfyriwr, o ddechreuwr newydd i’r rheini sydd am ddychwelyd ar gyfer cyrsiau ychwanegol.










