Am Goleg Llysfasi

Gyda dros 5,000 o gofrestriadau a 130 aelod o staff, mae'r Coleg wedi'i leoli ar ddau brif gampws, Llysfasi ger Rhuthun a Hyfforddiant Wrecsam yn Felin Puleston. Mae Coleg Llysfasi yn cefnogi addysg gydol oes ac addysg yn y gymuned ac yn cynnig nifer o gyrsiau mewn amrywiaeth o ganolfannau ar draws Dyffryn Clwyd, Dyffryn Dyfrdwy ac arfordir Gogledd Cymru.
Mae cyrhaeddiadau ein myfyrwyr wrth ennill cymwysterau, wrth symud ymlaen i Addysg Uwch ac wrth baratoi ar gyfer cyflogaeth yn ffynhonnell o falchder i'r holl staff yn Llysfasi. Rydym yn awyddus i'ch helpu yn eich dysgu ac annog eich datblygiad.
Ein nod yw darparu cyfleoedd dysgu o safon uchel i'n cymuned o fewn awyrgylch croesawgar, gofalgar a chefnogol.
Beth bynnag yw eich anghenion addysg a hyfforddiant, gallwn eich arwain yn y cyfeiriad iawn ac os ydych yn penderfynu ceisio am gwrs, byddwch yn ymuno รข Choleg sydd ag enw da a sefydlog am y safonau uchaf mewn addysg galwedigaethol, proffesiynol a chymunedol.
Rydym yma i'ch helpu, ac mae ein llwyddiant parhaus yn dibynnu ar eich llwyddiant chi. Gyda'n gilydd, edrychwn ymlaen at ddiogelu eich dyfodol.
Os ydych ar fin gadael yr ysgol neu'n dychwelyd i astudio'n hwyrach mewn bywyd, gyda'n dewis o gyrsiau rydych yn siwr o ddod o hyd i rywbeth fydd yn addas i chi. Os na allwch benderfynu, mae gennym staff profiadol i'ch helpu i wneud y dewis iawn.










