Siarter Coleg Llysfasi
Beth i'w Wneud Os Yw Pethau'n Mynd o Chwith
Os cyfyd problem yn ystod eich cwrs sy'n berthnasol i ddarpariaeth neu gyfleusterau'r Coleg yn gyffredinol, ac os nad ydych yn gallu ei ddatrys, gallwch gwyno yn ysgrifenedig.
- Yn y lle cyntaf, dylech ddwyn eich cwyn i sylw tiwtor eich cwrs (neu, os yw'n well gennych, yn uniongyrchol i'r pennaeth adran).
- Os na chaiff ei ddatrys - i'r Pennaeth Adran.
- Os na chaiff ei ddatrys - i'r Pennaeth.
- Os na chaiff ei ddatrys - i Gadeirydd y Corff Llywodraethol.
Mae rhestr lawn o Lywodraethwyr y Coleg a'u cyfeiriadau ar gael oddi wrth Glerc y Llywodraethwyr yng Ngholeg Llysfasi.
Gellir gweld enwau Llywodraethwyr y Coleg yma.
Os y digwydd na ellir datrys eich problem drwy unrhyw o'r mesurau uchod, gallwch gysylltu â:
LLYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU,
CWRT LINDEN,
Y BERLLAN,
RHODFA TY GLAS,
LLANISHEN,
CAERYDD,
CF14 5DZ
RHIF FFÔN: 029 20926000
Neu, yn achos y cyrsiau addysg a hamdden cyffredinol, gallwch gysylltu â'r awdurdod.
Os nad oes cyrsiau ar gael i chi yn lleol, neu os cewch broblemau wrth ymdrin â'r Awdurdod Lleol, dylech gysylltu â'r Cynulliad.
Gallwch ddisgwyl:
Cael ymateb i'r cwyn o fewn 10 diwrnod gwaith.
Cael eich trin yn gwrtais trwy gydol yr amser.










