Siarter Coleg Llysfasi

Cyfleusterau
Tra yn y Coleg gallwch ddisgwyl:
Cyffredinol
- Ystafelloedd ddarlithio a llefydd astudio glân a chynnes.
- Defnydd o gyfleusterau hamdden y Coleg yn ystod amseroedd priodol.
- Amgylchedd dysgu diogel.
Os Ydych yn Aros yn yr Hostel
Gwelwch lawlyfr dysgwyr os gwelwch yn dda. Os oes gennych ddiddordeb mewn preswylio yn yr hostel, a fuasech cystal â hysbysu eich tiwtor.
Dysgu
- Y bydd y llyfrgell a'i chyfleusterau ar agor bum niwrnod ac un noson yr wythnos yn Llysfasi ac un diwrnod yn Hyfforddiant Wrecsam.
- Y bydd lle cyfrifiaduron ar gael ar gyfer dysgu dysgwyr-ganolog.
- Cyflwyniad ar y defnydd o'r llyfrgell a'i hadnoddau yn ystod pythefnos cyntaf eich cwrs os yn briodol.
Gwasanaeth Craidd
Defnydd o holl wasanaethau'r dysgwyr megis cyfleusterau lles, arlwyo, chwaraeon a hamdden. (Dim ond i'r dysgwyr preswyl y mae adnoddau hamdden yr hostel ar gael).










