Siarter Coleg Llysfasi

Adolygiad a Gwethusiad
Gallwch ddisgwyl:
- Tiwtor cwrs penodol.
- Adolygiad a gwerthusiad rheolaidd o'ch cynnydd.
- Holiadur yn adolygu a gwerthuso'r cwrs. I ganlyniadau'r holiadur gael eu casglu ynghyd gan y Pennaeth Adran a'u cyflwyno i'r Uwch-Reolwyr.
- I'r Uwch-Reolwyr nodi canlyniadau'r gwerthusiad a gweithredu arnynt, os ydynt yn teimlo bod angen gweithredu.
- I'r Coleg gael ei arolygu a'i werthuso gan Arolygwyr ei Mawrhydi, sef ESTYN, yn gyson.
Fel rhan o weithdrefn ansawdd y Coleg, gofynnir i chi gymryd rhan mewn ymarfer adolygu a gwerthuso.
Gallwch gael manylion am gynnydd y Coleg mewn perthynas รข chanlyniadau arholiadau a gwybodaeth am ddiwedd taith dysgwyr yn yr Adolygiad Blynyddol ar gais neu gellir dod o hyd i gopiau naill ai yn Llyfrgell y Coleg neu Llyfrgell y Sir yn Rhuthun.
Gellir hefyd weld adroddiadau asiantaethau allanol ar y Coleg yn Llyfrgell y Coleg.










