Siarter Coleg Llysfasi
Manylion am y Cyrsiau
Gallwch ddisgwyl:
- Wrth holi am y tro cyntaf - manylion y cyrsiau
- Mewn cyfweliad / cadarnhad - cyfrif manwl o'r cwrs
- Ar ddechrau'r cwrs - Ceir cyfnod cyflwyno a fydd yn eich galluogi i ymgyfarwyddo â'ch gwaith yn gyflym. Bydd hyd a'r math o gyfnod cyflwyno yn amrywio yn ol y cwrs. Byddwch hefyd yn derbyn copi o Lawlyfr y Cwrs.
- Yn ystod y cwrs ymgymerir ag adolygiadau a gwerthusiadau rheolaidd o'ch cynnydd.
- Os ydych ar gwrs llawn-amser, cyfrwng y Gymraeg neu yn fyfyriwr efo anawsterau dysgu ac anabledd byddwch yn derbyn cytundeb unigol dysgwyr a fydd yn cael ei adolygu ym mhob tiwtorial i'ch galluogi i asesu eich cynnydd.
Dysgu a Dysg
- Bydd yr holl staff fydd ynglyn â'ch cwrs yn gymwys yn y maes galwedigaethol priodol.
- Bydd cymwysterau a enillir yn cael eu credydu un ai yn gyfan, os y cwblhawyd y cwrs yn llwyddiannus, neu fel unedau a gwblhawyd, os y gadewch yn gynnar neu os y trosglwyddwch i gwrs arall fel y gellir eu defnyddio fel credydau ar gyfer cyrsiau eraill.
- Mae gan y Coleg ganolfan gefnogi dysgwyr (SGILFAN). Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i'r holl ddysgwyr ar y ddau leoliad ac i ddysgwyr yn y gweithle.
- Mae gan staff y ganolfan gefnogi dysgwyr brofiad o weithio gyda dysgwyr o bob oedran ac maent yn gallu delio ag amrywiaeth o anghenion gwahanol.
- Bydd aseiniadau a roddir i fewn i diwtoriaid cwrs yn cael eu farcio a'i dychwelyd i chwi o fewn 10 diwrnod gwaith.
- Bydd llyfrau ar gael i'w llogi o lyfrgell y Coleg.
- Ar ddiwedd y cwrs - i dderbyn canlyniadau o fewn 10 diwrnod i'r Coleg eu derbyn.
- Lleoliad Gwaith - Bydd lleoliad gwaith yn cael ei asesu er mwyn addasrwydd ar gyfer eich cwrs a lefel y cwrs.
- Byddwch yn cael ymweliad yn eich lleoliad gwaith o leiaf unwaith gan eich tiwtor cwrs, lle y byddwch yn cael canllawiau ar eich datblygiad.
- Cyngor ag Hyfforddiant - Arweiniad ar ddewisiad gyrfaol gan Swyddog Gyrfaoedd y Coleg a Cynghorydd Gyrfaoedd Cymru.
- Bydd eich cwrs yn cynnwys manylion o fathau o swyddi / gyrsiau dilynol sydd ar gael i chi ar ddiwedd eich cwrs.
Rhan 3 ->











