Siarter Coleg Llysfasi

Cyflogwyr a'r Gymuned Leol
Fel cyflogwr, gallwch ddisgwyl:
- I unrhyw ymholiad gael ei ateb yn effeithiol o fewn 10 niwrnod gwaith.
- I'r aelod priodol o staff ymdrin a'r ymholiad.
Os ydych yn anfon gweithiwr ar gwrs, y byddwch yn derbyn gwybodaeth ynglyn â:
- chynnwys y cwrs
- hyd y cwrs a'r oriau astudio
- costau perthnasol i'r cwrs
- cymwysterau a chredydau y gellir eu hennill drwy gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.
- adroddiadau rheolaidd ar gynnydd eich gweithiwr.
Os ydych yn cynnig lleoliad gwaith i ddysgwyr, gallwch ddisgwyl i'r Coleg eich hysbysu:
- ganlyniadau dysgu a ddisgwylir
- eich cyfrifoldeb am asesu ac arolygu dysgwyr
Gallwch hefyd ddisgwyl:
- i'r dysgwyr sy'n dod atoch fod wedi'i paratoi'n dda gan allu gwneud cyfraniad defnyddiol i'ch busnes tra gyda chi.
- i'ch sylwadau ar berfformiad y dysgwr gael ei hystyried wrth ei asesu.
Os yr aiff pethau o chwith, mae'r weithdrefn yn yr adran "beth i'w wneud os yw pethau yn mynd o chwith" ar gael i chi.
Fel aelod o'r gymuned leol, gallwch ddisgwyl i'r Coleg:
- Roi ystyriaeth i anghenion y gymuned leol yn ei ddarpariaeth trwy arolygu cyflogwyr lleol yn rheolaidd.
- Sicrhau bod prosbectws y cyrsiau ar gael yn y llyfrgell lleol.
- Darparu rhestr o'r costau sy'n berthnasol i'r defnydd o'r Coleg a'i gyfleusterau.
- Darparu anghenion lleol yn y gymuned, lle mae'r angen wedi'i arenwi.
Mae gan dysgwr sydd yn derbyn eu hyfforddiant a'u hasesiad yn y gweithle neu mewn canolfannau allanol, sy'n perthyn i'r Coleg yr un hawl â dysgwyr y prif gampws.
Bydd y Coleg yn sicrhau bod hyfforddiant ac asesiad yn digwydd, y bydd cyfleusterau ac amgylchedd dysgu yn cyfarfod â gofynion y corff dyfarnu priodol. Ni fydd y safonau ddim llai nag i'r dysgwyr hynny ar y prif gampws, cyn belled ag y bo'r gweithle a'r canolfannau allanol yn caniatau.
Mae holl gyfleusterau'r prif gampws ar gael i'r dysgwyr eraill hefyd yn ystod oriau a nodir, wath ble mae eu canolfan hyfforddiant e.e. Llyfrgell, Technoleg Gwybodaeth.










