Siarter Coleg Llysfasi
Gwneud Cais am Gwrs
Gallwch ddisgwyl:
a.
- Y byddwn yn delio â'r holl ymholiadau yn brydlon ac yn effeithlon ac yr anfonir ateb o fewn 10 niwrnod gwaith.
- Ymdrinir â phob cais am gwrs yn brydlon ac yn effeithlon a rhoddir gwybod am gyfweliad (lle'n ofynnol) o fewn 10 niwrnod gwaith i'w dderbyn.
b. Mewn cyfweliad:
- Cael eich cyfweld gan aelod o'r tim dysgu ar gyfer y cwrs yr ydych wedi gwneud cais amdano.
- I gael cyfweliad yn eich dewis iaith fel a nodir yn Mholisi Iaith Gymraeg y Coleg.
- Cael cynnig taith o amgylch adran y Coleg sy'n berthnasol i'ch cais.
- Cadarnhad ysgrifenedig yn cynnig lle o fewn 5 diwrnod gwaith i'r cyfweliad.
- Gallwch ddisgwyl cael cyngor ar ba gwrs sy'n ateb eich gofynion arbennig i chi.
Mewn achos o wrthod lle, cadarnhad ysgrifenedig o fewn 5 niwrnod gwaith i'r cyfweliad yn nodi rhesymau eglur a manwl dros wrthod lle. (gall enghreifftiau o resymau dros wrthod rhywun ar gwrs gynnwys methu ateb y gofynion mynediad, dim lle ar gael, dim digon o bobl i sicrhau cwrs, bod mewn dyled gyllidol i'r Coleg).
Bydd unrhyw ffi sy'n berthnasol i'ch cwrs yn cael ei egluro i chi.






