Coleg Llysfasi

Amaethyddiaeth - Gofal Anifeiliaid - Coedwigaeth a Chefn Gwlad - Peirianneg - Busnes - Rheolaeth - Technoleg Gwybodaeth
Ieithoedd Modern - Cymraeg i Oedolion - Gofal Plant - Gofal - Trin Gwallt - Therapi Harddwch - Therapi Cyfannol

Tudalen Gartref Llysfasi

Gwybodaeth am y Coleg

Hanes

Manylion Cyswllt

Map Lleoliad

Siarter y Coleg

Cyrsiau

Cyflawni Rhagoriaeth

Adolygiad Blynyddol

Myfyrwyr a Newyddion

Addysg i Oedolion a'r Gymuned

Cysylltiadau Rhyngwladol

Adnoddau

Cynllun Iaith a Darpariaeth Dwyieithog

Cymorth i Ddechrau Eich Busnes

Llywodraethwyr

Swyddi

Dolenni Defnyddiol

English

Technoleg Gwybodaeth

Therapi Harddwch

Peirianneg

Trin Gwallt

Gofal Anifeiliaid

Adnoddau yn Ngholeg Llysfasi

Beicio Pedwar Olwyn Cynaeafu Myfyrwyr o Dramor Coedwigaeth

Mae Llysfasi'n croesawu myfyrwyr gyda nifer o ddiddordebau a chefndiroedd, ac amrywiaeth eang o oedranau, gan gynnwys rhai sydd newydd adael ysgol a dysgwyr hŷn.  Mae nifer yn teithio i'r Coleg yn defnyddio'r rhwydwaith helaeth o gludiant a ddarperir ac mae eraill yn breswyl yn neuadd bwrpasol y Coleg gyda bwyty a chyfleusterau hamdden.

Chwaraeon

Mae nifer o fyfyrwyr yn cyfranogi mewn chwaraeon tîm, megis pêl droed a rygbi.  Mae myfyrwyr sy'n byw yn y Coleg yn gallu defnyddio ein maes chwarae dan do mawr ar gyfer pêl droed pump bob ochr, pêl fasged a badminton.  Mae bwrdd pwl, bwrdd snwcer a bwrdd pêl droed hefyd ar gael.  Mae tripiau yn cael eu trefnu i amrywiaeth o leoliadau chwaraeon a hamdden, megis canolfannau hamdden lleol ar gyfer nofio, bowlio, sglefrio iâ a sgïo llethr sych.  Os yw'ch diddordeb yn gorwedd mewn mynydda, hwylio neu fordhwylio, mae Eryri a Llyn Tegid y Bala o fewn pellter teithio hawdd.  Mae Wardeiniaid Hostel yn hapus i helpu a hwyluso dysgwyr sy'n dymuno cyfranogi mewn gweithgareddau oddi ar y campws megis mynd i'r sinema a go-cartio.

Llety

Mae gan neuadd bwrpasol y Coleg neuadd fwyta a chyfleusterau hamdden gan gynnwys teledu sgrîn lydan, DVD/Fideo a bwrdd pwl, i'r rhai sy'n dymuno aros yn y Coleg.  Mae yna 61 o ystafelloedd gwely sy'n cynnwys cyfleusterau ymolchi a lle i astudio.  Mae gan pob bloc Neuadd ddwy ystafell ymolchi gyda chegin â thegell, tostiwr, oergell a meicrodon wedi'u darparu'n safonol.

Ar gyfer myfyrwyr preswyl ifanc, mae yna wardeiniaid neuadd mewn lle i sicrhau eich iechyd a'ch lles, gan ddarparu cymorth cyfeillgar i'ch cael chi trwy'r flwyddyn. Gellir trefnu teithiau i'r sinema, canolfan hamdden a gweithgareddau eraill gan y wardeiniaid.

Y Llyfrgell

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.

Cludiant am Ddim

Ar gael am ddim i nifer o fyfyrwyr sy'n teithio ar ffyrdd penodedig i safle Llysfasi.

Gofal Plant

Trwy bartneriaeth gyda Miri Meithrin, mae meithrinfa dydd plant ar gael 1.5 milltir o'r prif gampws yn Llysfasi yn darparu amgylchedd diogel, cyffrous a gofalgar i blant myfyrwyr gyda ffioedd rhatach.

Bar Byrbryd ac Ystafell Fwyta

Mae prydau a byrbrydau gwerth eich arian wedi'u gwneud yn ffres o gynnyrch lleol ar gael yn ddyddiol yn safleoedd Llysfasi a Hyfforddiant Wrecsam.

Salonau Gwallt a Harddwch

Mae Directions ac Xpectations yn Salonau Gwallt a Harddwch sy'n cael eu rhedeg yn Hyfforddiant Wrecsam gan hyfforddedigion dan arolygaeth ac yn darparu gwasanaeth proffesiynol i'r cyhoedd am brisiau rhesymol.

Galwch Directions ar 01978 353890 ac Xpectations ar 01978 354017 i gael apwyntiad.

Cyfleusterau i'w Llogi

Mae'r Coleg yn gallu cynnig nifer o gyfleusterau am bris cystadleuol yn eu prif safle yn Llysfasi ar gyfer cyfarfodydd, cynhadleddau, cyrsiau preswyl, digwyddiadau a llawer mwy.

Theatr Darlithio

Mae'r Theatr Darlithio newydd sbon yn adnodd dysgu modern all eistedd hyd at 164 o bobl.  Wedi ei awyru'n llawn, gyda system Cyhoeddi, Cyfleusterau PowerPoint a Thaflunydd.

Ystafelloedd Pwyllgor a Darlithio

Mae ystafelloedd pwyllgor a darlithio ar gael i'w llogi gyda Thaflunydd a sgrîn, Teledu / Fideo, Siart fflip a chyfleusterau PowerPoint. Mae ystafelloedd gyda chyfrifiaduron hefyd ar gael.

Llety

Mae'r Coleg yn gallu cynnig llety am bris rhesymol iawn mewn 61 ystafell sydd yn dal hyd at 152 o bobl.  Gall y Coleg hefyd drefnu gweithgareddau wedi'r nos a phleserdeithiau ar gyfer grwpiau.  Croeso i grwpiau mawr.

Arlwy

Rydym yn cynnig dewis eang o opsiynau arlwy fydd yn tynnu dŵr i'ch dannedd, gan gynnwys prydau ystafell fwyta, bwffe a phecynnau bwyd.  Fe all yr ystafell fwyta eistedd hyd at 100 o bobl.

Am brisiau neu gwybodaeth ychwanegol yn gysylltiedig ag unrhyw un o'r uchod cysylltwch ag admin@llysfasi.ac.uk neu galwch 01978 790263.

Stiwdio Cynhadledd Fideo

Cysylltwch gyda sefydliadau eraill gan ddefnyddio stiwdio cynhadledd fideo Coleg Llysfasi.  Stiwdio yn addas ar gyfer 6-7. Cymorth technegol llawn ar gael.

Am brisiau neu gwybodaeth ychwanegol cysylltwch a Graeme Heel ar 01978 790 263 neu e-bostiwch videostudio@llysfasi.ac.uk

Lleoliad prydferth a chyfleusterau o'r radd flaenaf am brisiau rhesymol - Pam ystyried unrhyw le arall?

Busnes Gwartheg Godro Trin Gwallt  Peirianneg

Valid CSS! Valid XHTML 1.0 Transitional